Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Hydref 2025
Amser:
08.59 -
09.34
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Lisa Griffiths (Clerc) Steffan Lewis (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees MS, Y Dirprwy Lywydd Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Mark Wyn Jones, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y
Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd dim
ymddiheuriadau.
Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 14 Hydref 2025
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y
Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15
munud) – gohiriwyd tan 21 Hydref
Dadl ar Ddatganiad: Mae'r Gyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27 (90 munud) wedi'i symud o ddiwedd y cyfarfod i'r eitem gyntaf ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Dydd Mawrth 21 Hydref 2025
· Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 (5 munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y
Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15
munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 22 Hydref 2025 –
Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025 -
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr hyn a ganlyn mewn perthynas â’r ddadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar adolygiad gweithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE:
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion posibl i’w trafod ar 15 Hydref 2025 a chytunodd i amserlennu’r ddadl Aelod ganlynol a gyflwynwyd gan Adam Price:
NNDM8884
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod enseffalomyelitis
myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o
ddifrifoldeb.
2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu
categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth
i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn:
gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn
amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo
drwy diwb.
3. Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf
o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth
briodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr,
Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd
yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael
ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn
yr adroddiad;
b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud
darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME
difrifol a difrifol iawn;
c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a
phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu
canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar
gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol;
d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer
cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid hir - yn
flaenoriaeth;
e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn
gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac
ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion
a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac
f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu
gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y
rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu
amdanynt.
Maeve Boothby O'Neill: Adroddiad Prevention of Future
Deaths
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
Bydd Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn cael ei gyflwyno i'r Seneddddydd Llun 3 Tachwedd 2025.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y mater a chytunodd ar yr hyn a ganlyn:
a) y byddai'r Dirprwy Lywydd yn cael ei benodi'n Gadeirydd,
b) ei fod yn cynnwys pedwar Aelod (2 o Llafur Cymru, 1 o’r Ceidwadwyr Cymreig ac 1 o Blaid Cymru), gan gynnwys y cadeirydd; a
c) datgymhwyso Rheol Sefydlog 17.2A – 17.2S mewn perthynas ag ethol cadeirydd;
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd i'r Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf gydag enwau Aelodau ar gyfer y Pwyllgor.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1538 Diogelu
gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr
israddio i Drin a Throsglwyddo ddydd Mercher 22 Hydref.
Cododd y Llywydd y mater o reolau a chanllawiau ynghylch y cyfnod pleidleisio yn dilyn enghreifftiau diweddar o Aelodau'n pleidleisio o gerbydau neu wrth deithio.
Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i ystyried ymhellach yr opsiynau ynghylch egluro'r canllawiau a nododd y bydd y Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y mater hwn eto yn ei gyfarfod nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i newid aelodaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda lle i'w ddyrannu i Aelod Annibynnol, yn lle Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnig y dylid ethol Russell George AS i fod yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Joel James AS sydd ar y pwyllgor ar hyn o bryd) ac y bydd hyn yn cael ei ychwanegu at yr agenda ar gyfer dydd Mercher 8 Hydref.